Hafina Clwyd | |
---|---|
Ganwyd | Mair Hafina Clwyd Jones ![]() 1 Gorffennaf 1936 ![]() Gwyddelwern ![]() |
Bu farw | 14 Mawrth 2011 ![]() Ysbyty Cymunedol Rhuthun ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, colofnydd ![]() |
Awdur toreithiog, ffeminydd a chasglwr achau oedd Hafina Clwyd (1 Gorffennaf 1936 – 14 Mawrth 2011) a sgwennodd yn helaeth i bapurau newydd, cylchgronau a chyhoeddiadau Cymraeg a Chymreig. Roedd ganddi golofn wythnosol yn y Western Mail a dilynodd Emyr Preis fel golygydd Y Faner yn 1986.[1] Roedd yn ddyneiddiaethydd brwd, wedi iddi droi ei chefn ar grefydd; bu'n Faer Rhuthun rhwng 2008-9 ar ran y Rhyddfrydwyr.