Enghraifft o: | rhaglen radio ![]() |
---|---|
Cyhoeddwr | BBC Cymru ![]() |
Iaith | Cymraeg ![]() |
Dechreuwyd | 3 Ionawr 1977 ![]() |
Daeth i ben | 1989 ![]() |
Rhaglen radio ddyddiol o'r 1970au ac 1980au oedd Helo Bobol ac, heblaw am y newyddion, hon oedd y rhaglen gyntaf i'w chlywed ar BBC Radio Cymru pan lansiwyd yr orsaf ar 3 Ionawr 1977. Cychwynnodd BBC Radio Cymru am 6.45am y bore hwnnw, gyda bwletin newyddion: yna, darlledwyd Helo Bobol rhwng 7 a 9, gyda bwletinau newyddion o fewn y rhaglen am 7.45 ac 8.45.[1]
Roedd Helo Bobol yn cael ei darlledu bob bore'r wythnos a'r cyflwynydd oedd Hywel Gwynfryn. Roedd y rhaglen yn gymysgedd o gerddoriaeth a chyfweliadau ac ambell bwt o gyngor.[2] Thema agoriadol y rhaglen oedd "Pinocchio's Picnic", cerddoriaeth lyfrgell gan gwmni KPM (Music Pictorial gan James Clarke, KPM 1096).[3][4]
Dywedai Gwynfryn mai ystyr y BBC oedd 'Y Bobol Biau'r Cyfrwng' a bwriad y rhaglen oedd apelio at y bobl hynny ar draws Cymru. Daeth y rhaglen yn adnabyddus am ofyn i wrandawyr fathu termau Cymraeg newydd.[5]
Yn ddiweddarach, estynnwyd oriau Helo Bobol i gwmpasu'r hyn a enwyd gan Gwynfryn yn 'Bwrdd Brecwast Cynnar' (BBC) a'r 'Bwrdd Brecwast Hwyr'.[angen ffynhonnell] Daeth y rhaglen i ben yn 1989.[6]