Henry Kissinger | |
| |
Cyfnod yn y swydd 22 Medi 1973 – 20 Ionawr 1977 | |
Rhagflaenydd | William Rogers |
---|---|
Olynydd | Cyrus Vance |
Cyfnod yn y swydd 20 Ionawr 1969 – 3 Tachwedd 1975 | |
Rhagflaenydd | Walt Rostow |
Olynydd | Brent Scowcroft |
Geni | 27 Mai 1923 Fürth, Yr Almaen |
Marw | 29 Tachwedd 2023 Kent, Connecticut, UDA |
Plaid wleidyddol | Gweriniathol |
Priod | Ann Fleischer (p. 1949; ysgariad 1964) Nancy Maginnes (p. 1974) |
Plant | Elizabeth a David |
Llofnod |
Gwyddonydd gwleidyddol a diplomydd o'r Unol Daleithiau a aned yn yr Almaen oedd Henry Alfred Kissinger (27 Mai 1923 – 29 Tachwedd 2023) a dderbynodd Gwobr Heddwch Nobel. Gwasanaethodd fel Cynghorydd Diogelwch Cenedlaethol ac yn hwyrach ar y cyd fel Ysgrifennydd y Wladwriaeth yng ngweinyddiaethau'r Arlywyddion Richard Nixon a Gerald Ford.
O 1969 hyd 1977, chwaraeodd Kissinger rhan flaenllaw ym mholisi tramor yr Unol Daleithiau gan ymarfer safbwynt Realpolitik. Yn ystod y cyfnod hwn, dechreuodd polisi détente â'r Undeb Sofietaidd, dilynodd polisi o nesâd â Gweriniaeth Pobl Tsieina, a thrafododd Cytundebau Heddwch Paris gan ddod ag ymyrraeth Americanaidd yn Rhyfel Fiet Nam i ben.
Roedd Kissinger yn ffigur dadleuol ac yn gadeirydd Kissinger Associates, busnes ymgynghori rhyngwladol. Roedd nifer o arlywyddion Americanaidd ac arweinwyr eraill o gwmpas y byd yn cymeryd ei farn a'i gyngor. Mae awdurdodau yn Ffrainc, Sbaen, Chile, a'r Ariannin wedi ceisio cwestiynu Kissinger am ei ran yn Ymgyrch Condor.
Bu farw Kissinger yn ei cartref yn Kent, Connecticut, yn 100 oed.[1][2]