Homo sapiens sapiens Bodau dynol anatomegol | |
---|---|
H. s. sapiens (oedolion) yng ngogledd Gwlad Tai | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Primat |
Is-urdd: | Haplorhini |
Teulu: | Hominidae |
Genws: | Homo |
Rhywogaeth: | H. sapiens |
Isrywogaeth: | H. s. sapiens |
Dosbarthiad |
O fewn paleoanthropoleg, cyfeiria'r term Homo sapiens sapiens (neu Bodau dynol modern o ran anatomeg; Saesneg: anatomically modern humans, AMH ) at yr aelodau unigol hynny o fewn y rhywogaeth Homo sapiens sydd hefyd yn edrych yn debyg i fodau dynol modern.[1][2] (AMHS)
Esblygodd bodau dynol modern o fodau dynol cyntefig yn ystod Hen Oes y Cerrig Canol, tua 200,000 o flynyddoed cyn y presennol (CP).[3] Mae'r newid hwn yn nodi carreg filltir - sef cychwyn yr is-rywogaeth Homo sapiens sapiens', y grŵp mae pob bod dynol sy'n fyw heddiw'n perthyn iddo.
Mae'r ffosiliau hynaf o H. s. sapiens yn tarddu i 195,000 CP, a chanfuwyd 'gweddillion Omo' yn Nwyrain Affrica, ac yn cynnwys dau benglog (rhannau), braich, coes, troed ac asgwrn y pelfis.[4][5][6]
Ymhlith y darganfyddiadau eraill o ffosiliau cynnar mae Homo sapiens idaltu a ganfuwyd yn Herto yn Ethiopia sydd o fewn trwch blewyn i fod yn perthyn i Hen Oes y Cerrig Isaf (160,000 CP).[7] a darganfyddiadau yn Skhull, Israel sy'n 90,000 o flynyddoedd cyn y presennol.[8] Mae'r olion hynaf o H. s. sapiens - a echdynnwyd y genome cyfan ohono - yn 45,000 CP, a ganfuwyd yng ngorllewin Siberia .[9]