Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Hywel ab Ieuaf

Hywel ab Ieuaf
Ganwyd10 g Edit this on Wikidata
Bu farw985 Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
SwyddTeyrnas Gwynedd Edit this on Wikidata
TadIeuaf ab Idwal Edit this on Wikidata
PlantCynan ap Hywel Edit this on Wikidata

Roedd Hywel ab Ieuaf (bu farw 985) yn frenin Gwynedd.

Roedd Hywel yn fab i Ieuaf ab Idwal fu'n teyrnasu ar Wynedd ar y cyd gyda'i frawd Iago ab Idwal hyd 969. Yn y flwyddyn honmno, bu cweryl rhwng meibion Idwal, a chymerwyd Ieuaf yn garcharor gan Iago. Yn 979 gorchfygwyd Iago mewn brwydr gan Hywel a chymerwyd yntau yn garcharor. Daeth Hywel yn frenin Gwynedd, ond mae'n ymddangos na ollyngodd ei dad yn rhydd o garchar. Yn ôl J.E. Lloyd, bu Ieuaf yng ngharchar hyd 988.

Nid oes llawer o wybodaeth ar gael am deyrnasiad Hywel. Yn 983, gwnaeth gynghrair gyda'r Saeson i ymosod ar Buellt a Brycheiniog, ond llwyddodd Einion ab Owain o Ddeheubarth i'w hatal. Bu Hywel farw yn 985 a dilynwyd ef ar yr orsedd gan ei frawd, Cadwallon ab Ieuaf.


Previous Page Next Page






Хівел ап Іеяў BE Hywel ap Ieuaf English Hywel ap Ieuaf Spanish Hywel ab Ieuaf French Hywel ab Ieuaf Italian Hywel ab Ieuaf Dutch Хивел ап Иейав Russian

Responsive image

Responsive image