Ian McKellen | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Ian Murray McKellen ![]() 25 Mai 1939 ![]() Burnley ![]() |
Man preswyl | Wigan, Narrow Street ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor llais, actor llwyfan, actor ffilm, actor, actor teledu, sgriptiwr ![]() |
Adnabyddus am | The Lord of the Rings trilogy, X-Men, The Hobbit trilogy ![]() |
Arddull | comedi Shakespearaidd ![]() |
Partner | Sean Mathias ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Laurence Olivier am Actor y Flwyddyn mewn Adfywiad, CBE, Gwobr Donostia, Annie Award for Voice Acting in a Feature Production, Gwobr Tony am yr Actor Gorau mewn Drama, Gwobr Beirniaid Ffilm am yr Actor Gorau, Gwobr Ffilm Ewropeaidd am Actor Gorau, Gwobr Cymdeithas Beirniaid Ffilm Broadcast ar gyfer Cast Gorau, Gwobr Golden Globe am yr Actor Cefnogol Gorau - Cyfres, Cyfres-bitw neu Ffilm Deledu, Saturn Award for Best Supporting Actor, Saturn Award for Best Supporting Actor, Screen Actors Guild Award for Outstanding Performance by a Male Actor in a Supporting Role, Gwobr Urdd Actorion Sgrin ar gyfer Perfformiad Eithriadol gan Cast mewn Ffilm Nodwedd, Oscar, Laurence Olivier Award for Actor of the Year in a New Play, Gwobr Laurence Olivier am Actor y Flwyddyn mewn Adfywiad, Gwobr Laurence Olivier am yr Actor Gorau, Empire Icon Award, Gwobr Drama Desk ar gyfer Actor Eithriadol mewn Drama, Gwobr Drama Desk ar gyfer Sioe Un-Person Eithriadol, Marchog Faglor, Gwobr Arbennig Cymdeithas Theatr Llundain, Critics' Circle Award for Distinguished Service to the Arts, GLAAD Stephen F. Kolzak Award ![]() |
Gwefan | http://www.mckellen.com/ ![]() |
Actor llwyfan a ffilm Seisnig yw Syr Ian Murray McKellen (ganwyd 25 Mai 1939). Yn ystod ei yrfa mae ef wedi derbyn Gwobr Tony a dau enwebiad am Wobrau'r Academi. Amrywia ei waith o ddramâu Shakesperaidd i theatr fodern a ffilmiau gwyddonias. Mae'n adnabyddus i nifer fel cymeriad Gandalf yn y tair ffilm Lord of the Rings ac fel Magneto yn y ffilmiau X-Men.
Ym 1988, daeth allan fel dyn hoyw a daeth yn un o'r bobl a sefydlodd "Stonewall", un o fudiadau hawliau LHDT mwyaf dylanwadol y Deyrnas Unedig. Mae'n parhau i fod yn lefarydd blaenllaw ar eu rhan.
Derbyniodd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) ym 1979 a chafodd ei urddo yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd ym 1991 am ei waith a chyfraniad eithriadol i'r theatr. Yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd yn 2008, derbyniodd "Companion of Honour" (CH) am ei wasanaethau i ddrama a chydraddoldeb. Fodd bynnag, pan gyflwynwyd y wobr CH iddo gan y Frenhines, cyfeiriodd y swyddog o Balas Buckingham at ei "wasanaeth i ddrama" yn unig, rhywbeth a ddigiodd McKellen.