| | |||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Symbol | |||||||
Nodweddion orbitol | |||||||
Pellter cymedrig i'r Haul | 5.20336301US | ||||||
Radiws cymedrig | 778,412,010km | ||||||
Echreiddiad | 0.04839266 | ||||||
Parhad orbitol | 11b 315d 1.1a | ||||||
Buanedd cymedrig orbitol | 13.0697 km s-1 | ||||||
Gogwydd orbitol | 1.30530° | ||||||
Nifer o loerennau | 63 | ||||||
Nodweddion materol | |||||||
Diamedr cyhydeddol | 142984 km | ||||||
Arwynebedd | 6.41×1010km2 | ||||||
Más | 1.899×1027 kg | ||||||
Dwysedd cymedrig | 1.33 g cm−3 | ||||||
Disgyrchiant ar yr arwyneb | 23.12 m s−2 | ||||||
Parhad cylchdro | 9a 55.5m | ||||||
Gogwydd echel | 3.12° | ||||||
Albedo | 0.52 | ||||||
Buanedd dihangfa | 59.54 km s−1 | ||||||
Tymheredd ar yr arwyneb: |
| ||||||
Nodweddion atmosfferig | |||||||
Gwasgedd atmosfferig | 70kPa | ||||||
Hydrogen | ~86% | ||||||
Heliwm | ~14% | ||||||
Llosgnwy | 0.1% | ||||||
Anwedd dŵr | 0.1% | ||||||
Amonia | 0.02% | ||||||
Ethan | 0.0002% | ||||||
Ffosffin | 0.0001% | ||||||
Hydrogen sylffid | <0.0001% | ||||||
Iau (symbol: ) yw planed fwyaf Cysawd yr Haul. Mae'n gawr nwy, a'r mwyaf amlwg hefyd i'w gweld o'r ddaear. Dyma frenin y planedau, y pumed o'r haul, ac mae'n anferth – dros ddwywaith cymaint a'r holl blanedau eraill efo'i gilydd. Gellid ffitio 1,300 planed o faint ein daear ni, fel pys mewn pot jam, o'i mewn.
O ran cyfansoddiad mae'n wahanol i'r 4 planed caregog sydd agosaf i'r haul (Mercher, Gwener, y Ddaear a Mawrth). Iau yw'r cyntaf a'r mwyaf o 4 o blanedau mawrion a ddisgrifir fel y 'cewri nwy' (Iau, Sadwrn, Wranws a Neifion) a gyfansoddir, yn bennaf, o hydrogen, heliwm, dŵr, methan ag amonia.
Mae'n ymddangos bod cnewyllyn eiriasboeth Iau wedi ei amgylchu gan haen drwchus o hydrogen metalaidd ac yna haen hylifog o hydrogen a heliwm. Tro'r hydrogen yn fetelaidd dan ddylanwad pwysedd disgyrchiant enfawr a gwres aruthrol Iau (amcanir bod y cnewyllyn tua 30,000°C). Mewn gwirionedd petai'r blaned ychydig yn fwy byddai'n ddigon i gynnau ymasiad (fusion) niwclear fyddai'n ei throi yn ail haul. Wrth lwc ni ddigwyddodd hynny neu fe fyddai bywyd yn amhosib ar ein daear ni. O amgylch y cyfan ceir atmosffer o nwyon hydrogen a heliwm yn bennaf â chyfansoddion eraill megis dŵr, methan ag amonia yn ffurfio sawl haen o gymylau trwchus lliwgar.
Am fod Iau yn troi ar ei echel bob 9.8 awr, sy'n llawer cyflymach na'r un blaned arall (cyflymder o 28,000 mya) yng nghysawd yr haul, ceir 'tywydd' amlwg iawn – efo gwyntoedd cryfion, hyd at 250 mya ar y cyhydedd, yn rhuthro'n ddi-baid gan roi cyfres o wregysau lliwgar o gymylau terfysglyd yn ymestyn i'r pegynau, lle bydd y gwyntoedd wedi arafu i tua 100mya. Ceir patrymau tonnog hardd ar y ffiniau rhwng y gwregysau – a dim rhyfedd chwaith, oherwydd mae cyfeiriad y gwynt yn newid o un i'r llall gan lifo'n groes i'w gilydd, bob yn ail, yn union fel y gwnânt ar ein daear ni, ond yn llai nerthol o gryn dipyn! Nodwedd amlwg iawn rhwng y cyhydedd a'r pegwn deheuol yw'r 'smotyn coch' enwog. Hyricên enfawr hirgron a pharhaus yw hwn, sydd tua 30,000 milltir o hyd a chymaint a phedair gwaith cymaint a'n daear ni.
Am fod patrymau'r cymylau yn newid yn gyson mae Iau wedi ennyn cryn chwilfrydedd ymysg seryddwyr, astrolegwyr ac artistiaid o bob math. Cyfansoddodd Mozart a Holstsymffoniau, neu rannau ohonynt, i'r blaned a seiliodd yr awdur Arthur C Clarke rai o'i nofelau ffug-wyddonol, e.e. 'Meeting with Medusa' (1972) a '2001, A Space Odessey' (ddaeth hefyd yn ffilm adnabyddus), ar ddigwyddiadau dychmygol yng nghyffiniau'r blaned fawr.