Mae'r Ieithoedd Indo-Iraneg yn uwch-deulu o ieithoedd sy'n perthyn i'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd. Fel mae'r enw yn awgrymu, fe'i siaredir yn bennaf ar is-gyfandir India a'r Iran hanesyddol.
Mae'n ymrannu'n ddwy gangen:
- Ieithoedd Indo-Ariaidd, sy'n cynnwys:
- Sansgrit*, iaith lenyddol hynafol India
- Hindi, prif iaith swyddogol India heddiw, a siaredir fel iaith gyntaf yn y gogledd yn bennaf
- Wrdw, prif iaith Pacistan a Mwslemiaid India
- Bengaleg, iaith Gorllewin Bengal a Bangladesh
- Pwnjabeg, iaith y Punjab
- Cashmireg, iaith ardal Cashmir
- Gwjarati, iaith talaith Gujarat yng ngogledd-orllewin India
- Nepaleg, prif iaith Nepal a siaredir hefyd yn ardaloedd Sikkim a Darjeeling
- Sinhaleg, prif iaith Sri Lanca (Ceylon)
- Ieithoedd Iranaidd, sy'n cynnwys: