Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Iwgoslafia

Iwgoslafia
Iwgoslafia
Jugoslavija (Југославија)
Mathgwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
PrifddinasBeograd Edit this on Wikidata
Poblogaeth23,271,000, 11,998,000 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd1 Rhagfyr 1918 (Ffurfiwyd)
27 ebrill 1992 (Daeth i ben)
AnthemHey, Slavs Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Serbo-Croateg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Arwynebedd255,804 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr Adria Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydayr Eidal, Gwlad Groeg, Hwngari, Rwmania, Albania, Bwlgaria, Awstria, yr Undeb Ewropeaidd, yr Almaen Natsïaidd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau44.8206°N 20.4622°E Edit this on Wikidata
Map
ArianYugoslav dinar Edit this on Wikidata

Gwlad ffederal ar lan Môr Adria yn y Balcanau, de-ddwyrain Ewrop, oedd Iwgoslafia (enw swyddogol: Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia, Serbo-Croateg: Jugoslavija). Roedd yn cynnwys y gweriniaethau ffederal Slofenia, Croatia, Serbia, Bosnia-Hertsegofina, Montenegro a Macedonia, sy'n wledydd annibynnol erbyn heddiw. Serbiaid a Croatiaid oedd mwyafrif y boblogaeth. Beograd oedd y brifddinas.

Map o'r hen Iwgoslafia (1945-1991)

Dechreuodd fel "Teyrnas y Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid" trwy uno Serbia, Croatia, Slofenia a Bosnia-Hertsegofina yn 1918. Cymerodd y brenin Alecsander I o Iwgoslafia rym absoliwt iddo'i hun yn 1929 ond cafodd ei asasineiddio gan genedlaetholwyr Croataidd yn 1934. Yn yr Ail Ryfel Byd meddianwyd y wlad gan yr Almaenwyr a ffoes Pedr II o Iwgoslafia, olynydd Alecsander, i alltudiaeth yn Llundain.

Rhanwyd y gwrthsafiad yn erbyn yr Almaenwyr rhwng dwy blaid wrthwynebus, sef y Tsietniciaid a'r Partisaniaid. Enillodd yr olaf gefnogaeth y Cynghreiriaid yn 1943 ac ar ôl y rhyfel sefydlodd eu harweinydd Tito lywodraeth gomiwnyddol.

Roedd Tito yn anfodlon i Iwgoslafia fod dan ddylanwad yr Undeb Sofietaidd a daeth materion i ben yn 1948 pan dorrodd gysylltiadai diplomyddol â'r Sofietiaid. Meiriolwyd y sefyllfa rywfaint yn sgîl marwolaeth Stalin. Dilynodd Tito bolisi o niwtraliaeth mewn materion tramor ('non-alignment') a datblygodd ffurf o sosialaeth ddatganoliedig unigryw i'r hen Iwgoslafia. Serbo-Croateg oedd yr iaith ffederal swyddogol.

Torrodd Iwgoslafia i fyny yn y 1990au yn Rhyfeloedd Iwgoslafia.


Previous Page Next Page






Joego-Slawië AF Jugoslawien ALS ዩጎስላቪያ AM Geugoslafia ANG يوغوسلافيا Arabic يوݣوسلاڤيا ARY يوجوسلاڤيا ARZ Yugoslavia AST Yuqoslaviya AZ Югославия BA

Responsive image

Responsive image