Jacqueline Kennedy Onassis | |
---|---|
Ganwyd | Jacqueline Lee Bouvier 28 Gorffennaf 1929 Southampton |
Bu farw | 19 Mai 1994 o lymffoma ddi-Hodgkin Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Addysg | newyddiaduraeth |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, golygydd llenyddol, cymdeithaswr, llenor, model |
Swydd | Prif Foneddiges yr Unol Daleithiau |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Tad | John Vernou Bouvier III |
Mam | Janet Lee Bouvier |
Priod | John F. Kennedy, Aristoteles Onassis |
Partner | Maurice Tempelsman |
Plant | Arabella Kennedy, Caroline Kennedy, John F. Kennedy Jr., Patrick Bouvier Kennedy |
Perthnasau | Alexandros Onassis, Christina Onassis |
Llinach | Kennedy family, Bouvier family |
Gwobr/au | Ellis Island Medal of Honor, Trustees Award |
llofnod | |
Jacqueline Kennedy Onassis | |
Cyfnod yn y swydd 20 Ionawr 1961 – 22 Tachwedd 1963 | |
Arlywydd | John F. Kennedy |
---|---|
Rhagflaenydd | Mamie Eisenhower |
Olynydd | Lady Bird Johnson |
Geni |
Roedd Jacqueline Lee "Jackie" Kennedy Onassis (Bouvier yn gynt; 28 Gorffennaf 1929 – 19 Mai 1994) yn wraig i'r 35ain Arlywydd yr Unol Daleithiau, John F. Kennedy, ac yn Brif Foneddiges yr Unol Daleithiau o 1961 tan llofruddiaeth ei gŵr yn 1963.
Bouvier oedd merch hynaf y brocer stoc Wall Street John Vernou Bouvier III a'r gymdetihaswraig Janet Lee Bouvier. Yn 1951, graddiodd gyda gradd Baglor y Celfyddydau mewn llenyddiaeth Ffrangeg o Brifysgol George Washington, ac aeth yn ei blaen i weithio fel ffotograffydd ymchwiliol i'r Washington Times-Herald.
Yn 1952, cyfarfu Bouvier â'r Cyngreswr John F. Kennedy mewn cinio. Yn Nhachwedd y flwyddyn honno, fe'i etholwyd yn Seneddwr yr Unol Daleithiau o Massachusetts, a phriododd y cwpl ym 1953. Cawsant bedwar o blant, bu farw dau ohonynt fel babanod. Fel y Brif Foneddiges, roedd yn adnabyddus am adfer y Tŷ Gwyn a'i phwyslais ar y celfyddydau a diwylliant. Ar 22 Tachwed 1963, roedd yn eistedd gyda'r Arlywydd mewn modurgad yn Dallas, Texas pan y llofruddiwyd. Tynnodd hi a'i phlant yn ôl o olwg y cyhoedd ar ôl ei angladd, ac ym 1968 priododd Aristotle Onassis.
Yn dilyn marwolaeth ei hail ŵr yn 1975, gweithiodd fel golygydd llyfrau am ddau ddegawd olaf ei bywyd. Fe'i chofir am ei chyfraniadau gydol oes i'r celfyddydau ac i gadwraeth pensaernïaeth hanesyddol, yn ogystal â'i steil, ceinder a gras.[1][2] Roedd yn eicon ffasiwn, ac mae ei gwisg enwog sy'n cynnwys y siwt binc Chanel a'r het pillbox wedi dod yn symbol o lofruddiaeth ei gŵr. Fe'i chydnabyddir fel un o'r Prif Foneddigesau mwyaf poblogaidd ac ym 1999 fe'i henwyd ar restr Gallup o'r Dynion a Merched Uchaf eu Parch yn America yr 20fed ganrif.[3]