![]() | |
Math | Taleithiau Tiwnisia ![]() |
---|---|
Prifddinas | Jendouba ![]() |
Poblogaeth | 401,477 ![]() |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+01:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tiwnisia ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 3,102 km² ![]() |
Cyfesurynnau | 36.5°N 8.78°E ![]() |
TN-32 ![]() | |
![]() | |
Mae Jendouba (Arabeg: ولاية جندوبة) yn dalaith yn Nhiwnisia. Fe'i lleolir yng ngogledd-orllewin y wlad, ar y ffin ag Algeria gyda rhimyn o arfordir (25 km) ar lan Môr y Canoldir yn y gogledd. Mae pen gogleddol dyffryn afon Medjerda yn gorwedd yn y dalaith, sy'n codi yn y gogledd a'r dwyrain i fynyddoedd y Kroumirie. Jendouba yw canolfan weinyddol y dalaith a'i dinas fwyaf o bell ffordd. Mae gan y dalaith arwynebedd o 3,102 km² a phoblogaeth o 417,000 (cyfrifiad 2004).
Bu'r dalaith yn rhan o dalaith Rufeinig Affrica a dan reolaeth brenhinoedd Numidia o bryd i'w gilydd, a cheir sawl safle archaeolegol yno. Y pwysicaf o'r rhain yw dinas Rufeinig Bulla Regia, yn agos i ddinas Jendouba, a Chemtou a Thubernica yn y gogledd.
Mae rheilffordd yn cysylltu'r dalaith â Thiwnis i'r dwyrain ac ag Algeria i'r gorllewin. Ar wahân i Jendouba ei hun, yr unig drefi eraill o bwys yw Ghardimao, y dref olaf cyn Algeria, a Bou Salem. Llai poblog ond o bwys fel canolfannau lleol yw brynfa uchel Aïn Draham a thref glan môr Tabarka. Yn y bryniau coediog ceir nifer o bentrefi fel Souk Djemaa. Fel yn achos gweddill y rhan yma o'r wlad, mae talaith Jendouba yn gallu bod yn oer yn y gaeaf gyda siawns o eira ar y bryniau.