Jens Peter Jacobsen | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 7 Ebrill 1847 ![]() Thisted ![]() |
Bu farw | 30 Ebrill 1885 ![]() Thisted ![]() |
Dinasyddiaeth | Brenhiniaeth Denmarc ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | botanegydd, bardd, cyfieithydd, nofelydd, llenor ![]() |
Prif ddylanwad | Gustave Flaubert, Stendhal, Émile Zola ![]() |
Mudiad | realaeth ![]() |
Nofelydd. awdur straeon byrion, a bardd yn yr iaith Ddaneg a botanegydd o Ddenmarc oedd Jens Peter Jacobsen (7 Ebrill 1847 – 30 Ebrill 1885).
Ganwyd yn Thisted yng ngogledd Jylland yn fab i farsiandïwr. Astudiodd y gwyddorau naturiol ym Mhrifysgol Copenhagen. Cyfieithodd ddau brif waith Charles Darwin i'r Ddaneg: On the Origin of Species yn 1871–73 a The Descent of Man yn 1874.[1]
Dan ddylanwad y beirniad ac ysgolhaig llenyddol Georg Brandes, un o'i ddarlithwyr yn Copenhagen, daeth Jacobsen i flaen y gad yn y mudiad Naturiolaidd yn llên Denmarc. Cyhoeddodd ei waith cyntaf, y nofel fer Mogens, yn 1872. Ysgrifennodd ddwy nofel, Fru Marie Grubbe (1876) a Niels Lyhne (1880), ac un gyfrol o straeon byrion, Mogens og andre Noveller (1882).
Teithiodd i'r Eidal tua 1873 ac yno cafodd dwbercwlosis, afiechyd a fu Jacobsen yn dioddef hyd nes ei farwolaeth. Treuliodd ddeuddeng mlynedd olaf ei oes yn gweithio yn ei boen beunyddiol ac ysgrifennu'n araf iawn. Bu farw o dwbercwlosis yn Thisted yn 38 oed. Wedi ei farwolaeth, cesglid ei farddoniaeth yn y gyfrol Digte og udkast (1886).