John Dwnn | |
---|---|
Ganwyd | 1430 |
Bu farw | Ionawr 1503, 1469 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | diplomydd, gwleidydd |
Tad | Gwyffd ap Dwn |
Mam | Joan Scudamore |
Priod | Elizabeth Hastinges |
Plant | Ann Dun, Margaret Dun, Sir Griffith Dwnn |
Roedd Syr John Dwnn (neu Donne yn Saesneg; c.1420au – Ionawr 1503) yn llyswr ac yn ddiplomydd o dras Gymreig.[1] Roedd yn aelod o'r teulu Dwnn o Gydweli.
Mae Dwnn yn enwog am iddo gomisiynu triptych a baentiwyd gan Hans Memling yn Bruges, sydd bellach yn yr Oriel Genedlaethol yn Llundain.[2] Roedd yn gefnogwr i Edward IV, brenin Lloegr, yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau. Wedyn, roedd yn ddiplomydd yn yr Iseldiroedd. Roedd o bosib yn bresennol ym mhriodas Charles le Téméraire, Dug Bwrgwyn, ym 1468.[3]