John Evans | |
---|---|
Ffugenw | Y Bardd Cocos |
Ganwyd | 1826 Porthaethwy |
Bu farw | 1888 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Cysylltir gyda | Royal Charter, Traeth Lafan, Pont Britannia |
Cymeriad hynod a rhigymwr unigryw oedd John Evans neu Y Bardd Cocos (1826 – 1888), a aned ym Mhorthaethwy ar Ynys Môn. Roedd yn hel cocos o'r traeth i ennill ei damaid a dyna a barwyd iddo gael ei lys enw ar ôl iddo ddod yn adnabyddus am ei gerddi anfwriadol ddigrif ac ysmala. Roedd ganddo feddwl mawr ohoni'i hun fel bardd yn arbennig ar bynciau mawr y dydd fel 'Suddo'r Royal Charter' (mewn hyn o beth roedd yn dilyn ffasiwn beirdd eisteddfodol ei ddydd). Roedd y llewod ar y Bont Britannia newydd er enghraifft yn,
Ymarddelai'r teitl rhwysgfawr 'Archfardd Cocysaidd Tywysogol'. Yn ei draethawd 'Gwaith yr Awen Rydd a Chaeth' mae'n esbonio fod 'gwaith yr archfardd yn waith caled, fel gwaith ceffyl, yn yr oes bresennol' gan fod neb llawer yn gwerthfawrogi ei ddoniau. Serch hynny roedd ganddo wir athrylith ddiniwed ac mae rhai o'i rigymau yn haeddianol enwog. Dyma enghraifft arall o'i waith, pennill agoriadol ei 'Gân Newydd ar Briodas y Prince of Wales':
Daeth sawl rhigymwr arall i herio ei deitl, fel Elias Jones (Cocosfardd y De) er enghraifft, ac enillodd y geiriau 'cocosfardd' 'cocoswaith' a 'cocosaidd' eu lle yn y geiriaduron, ond ni all neb gystadlu a'r Archfardd ei hun.