John Hefin | |
---|---|
Ganwyd | 14 Awst 1941 Tre Taliesin |
Bu farw | 19 Tachwedd 2012 o canser |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr teledu, cyfarwyddwr ffilm |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | MBE |
Cyfarwyddwr a chynhyrchydd ffilm, teledu a drama o Gymru oedd John Hefin MBE (14 Awst 1941[1] – 19 Tachwedd 2012).[2] Un o Dre Taliesin oedd John Hefin. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Ardwyn, Aberystwyth ac yna aeth i Goleg y Drindod a chafodd yno y cyfle i ddangos ei ddawn dan hyfforddiant Norah Isaac.[3]
Chwaraeodd ran bwysig yn sefydlu Comisiwn Ffilm Cymru a’r cwrs ffilm a theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth.[4]
John Hefin a David Meredith a baentiodd Craig Elvis ym 1962.[5]