John Hughes | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1814 ![]() Merthyr Tudful ![]() |
Bu farw | 17 Mehefin 1889 ![]() St Petersburg ![]() |
Man preswyl | Donetsk ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | person busnes, peiriannydd, metelegwr, perchennog pwll glo, gwneuthurwr, diwydiannwr, entrepreneur ![]() |
Cyflogwr |
Peiriannydd a dyn busnes o Gymru oedd John James Hughes (1814 – 17 Mehefin 1889). Ef oedd sylfaenydd dinas Donetsk yn yr Wcráin.
Ganwyd John Hughes ym Merthyr Tudful ym 1814. Ei dad oedd prif beiriannydd Gwaith Haearn Cyfarthfa. Bu Hughes yn gweithio fel peiriannydd yn y De ac yn Lloegr cyn iddo gael ei alw gan lywodraeth Rwsia i sefydlu gweithfeydd haearn yn yr Wcráin. Sefydlodd Hughes ddinas yn yr Wcráin ym 1870, a galwyd y ddinas honno yn Hughesovka (Юзовка) ar ôl ei sylfaenydd. Ail-enwyd y ddinas yn Stalino ym 1924, ac ym 1961 newidiwyd enw'r ddinas eto i Donetsk.