John Ruskin | |
---|---|
Ffugenw | Kata Phusin |
Ganwyd | 8 Chwefror 1819 Llundain |
Bu farw | 20 Ionawr 1900 Coniston |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, beirniad celf, hanesydd celf, athronydd, arlunydd, cymdeithasegydd, academydd, bardd, beirniad llenyddol, pensaer, newyddiadurwr, esthetegydd, daguerreotypist |
Swydd | master |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Modern Painters, The Seven Lamps of Architecture, The Stones of Venice, Unto This Last, Fors Clavigera |
Mudiad | Brawdoliaeth y Cyn-Raffaëliaid, rhyddfeddyliaeth |
Tad | John James Ruskin |
Mam | Margaret Cock Ruskin |
Priod | Effie Gray |
Gwobr/au | Newdigate Prize |
llofnod | |
Beirniad celf a meddyliwr cymdeithasol o Sais oedd John Ruskin (8 Chwefror 1819 – 20 Ionawr 1900), a gaiff ei gofio hefyd fel bardd ac arlunydd. Bu ei draethodau ar gelf a pensaerniaeth yn ddylanwadol iawn yn yr Oesoedd Fictoraidd ac Edwardaidd.
Daeth Ruskin yn adnabyddadwy yn gyffredinol am y tro cyntaf am ei gefnogaeth o waith yr arlunydd J. M. W. Turner a'i amddiffyniad o naturoliaeth mewn celf. Ar ôl hynny rhoddodd bwysau ei ddylanwad tu ôl i'r symudiad Cyn-Raffaëlaidd. Trodd ei lên diweddarach tuag at archwiliadau o faterion cymhleth a phersonol diwylliant, cymdeithas a moesoldeb, a bu'n ddylanwadol yn natblygiad Sosialaeth Cristnogol.