![]() Trem ar borthladd Kherson o'r awyr. | |
![]() | |
Math | dinas yn Wcráin ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 279,131 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Ihor Kolykhaiev ![]() |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00, EET ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | southern Ukraine ![]() |
Sir | Kherson urban hromada ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 68.7 km² ![]() |
Uwch y môr | 25 metr ![]() |
Gerllaw | Afon Dnieper ![]() |
Cyfesurynnau | 46.6425°N 32.625°E ![]() |
Cod post | 73000 ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Ihor Kolykhaiev ![]() |
![]() | |
Dinas a phorthladd yn Wcráin a chanolfan weinyddol Oblast Kherson yw Kherson (Wcreineg: Херсо́н). Saif ar lannau gorllewinol Afon Dnieper, rhyw 25 km o aber yr afon ar arfordir y Môr Du. Enwir y ddinas ar ôl Khersónēsos, gwladfa Roegaidd a sefydlwyd yn y Crimea yn y 6g CC.
Sefydlwyd caer yma ym 1778 wrth i Ymerodraeth Rwsia ehangu tua'r de-orllewin, a'r porthladd hwn oedd y ganolfan lyngesol a'r iard longau gyntaf a adeiladwyd gan y Rwsiaid yn y Môr Du. Dyrchafwyd yn brifddinas ranbarthol ym 1803, ac wrth i'r 19g fynd rhagddi tyfai'r ddinas ar sail cludo nwyddau ac adeiladu llongau. Ar y cyd â ffyniant y porthladd, datblygodd diwydiannau eraill gan gynnwys peirianneg, puro olew, a gweithgynhyrchu tecstilau.
Yn ystod goresgyniad Wcráin gan Rwsia yn 2022, Kherson oedd y ddinas fawr gyntaf i ildio i luoedd Rwsia.[1] Ond ym mis Tachwedd 2022, gorchmynnodd Vladimir Putin y gwacáu sifiliaid o'r ardal ar ôl i'r Wcráin ymladd yn ôl.[2]
Gostyngodd y boblogaeth o 328,000 yn 2001 i 284,000 yn 2021.[3]