Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Las Vegas

Las Vegas
Lleoliad Las Vegas
Gwlad Unol Daleithiau
Ardal Nevada
Llywodraeth
Awdurdod Rhanbarthol Rheolwr Cynghorol
Maer Oscar B. Goodman
Pencadlys
Daearyddiaeth
Arwynebedd 131.3 milltir sgwâr (340.0 km2);
Uchder 610 m
Demograffeg
Poblogaeth (Cyfrifiad 2007) 599,087
Dwysedd Poblogaeth 4,154/ milltir sgwâr) /km2
Metro 1,836,333
Gwybodaeth bellach
Cylchfa Amser PST (UTC−8) Haf (DST) PDT (UTC−7)
Cod Post 702
Gwefan Dinas Las Vegas Nevada

Mae Las Vegas yn ddinas fawr yn nhalaith Nevada, yr Unol Daleithiau (UDA), a chaiff ei ystyried yn brifddinas gamblo'r byd. Daw'r enw Las Vegas o'r Sbaeneg a'i ystyr yw "Y Dolydd". Mae'r ddinas boblog hon hefyd yn enwog am ei siopau a'r adloniant a geir yno. Mae Las Vegas, sy'n gwerthu ei hun fel Prifddinas Adloniant y Byd, yn enwog am y nifer o gasinos ac adloniant cysylltiedig. Dyma yw'r 28ain ddinas fwyaf boblog yn yr Unol Daleithiau, gyda thua 603,093 yn ôl Biwro Cyfrifiad yr Unol Daleithiau yn 2008.[1] Mae gan ardal fetropolitanaidd Las Vegas boblogaeth amcangyfrifedig o 1,836,333 yn 2007.[2]

Cafodd Las Vegas ei sefydlu ym 1905 a daeth yn ddinas swyddogol ym 1911. Yn sgil y twf a ddilynodd, erbyn diwedd y ganrif Las Vegas oedd y ddinas fwyaf poblog a sefydlwyd yn yr 20g. Oherwydd natur oddefgar y dinasyddion tuag at amrywiaeth o adloniant i oedolion, cafodd y ddinas y teitl "Sin City", ac mae'r ddelwedd hon wedi gwneud Las Vegas yn lleoliad poblogaidd iawn ar gyfer ffilmiau a rhaglenni teledu. Gwelir arddangosfeydd goleuadau ymhob man ar Strip Las Vegas ac maent i'w gweld mewn mannau eraill yn y ddinas hefyd. O'r gofod, ardal fetropolitanaidd Las Vegas yw'r mwyaf goleuedig ar y blaned.[3]

  1. (Saesneg)"Subcounty population estimates: Nevada 2000-2007"[dolen farw] (CSV). Biwro Cyfrifiad yr Unol Daleithiau, Adran Boblogaeth. 2007-07. Adalwyd 2008-09-16.
  2. (Saesneg)"Clark County population estimate for 2007".[dolen farw] Biwro Cyfrifiad yr Unol Daleithiau. 2007-01-07. Adalwyd 2008-12-04.
  3. Anhysbys."The Extent of Urbanization in the Southwest As Viewed from Space". Archifwyd 2009-05-08 yn y Peiriant Wayback Adalwyd 9-7-2008.

Previous Page Next Page






Las Vegas AF Las Vegas ALS ላስ ቬጋስ AM Las Vegas AN Mǣdweburg ANG لاس فيغاس Arabic لاس ڤيجاس ARZ Las Vegas AST Las-Veqas AZ لاس‌وقاس AZB

Responsive image

Responsive image