Gweriniaeth Liberia | |
Arwyddair | Ein Cariad at Ryddid a Ddaeth a Ni Yma |
---|---|
Math | gweriniaeth, gwladwriaeth sofran, gwlad |
Prifddinas | Monrovia |
Poblogaeth | 5,214,030 |
Sefydlwyd | 26 Gorffennaf 1847 (Datganiad o Annibyniaeth) |
Anthem | Henffych, Liberia, henffych! |
Pennaeth llywodraeth | George Weah |
Cylchfa amser | UTC+00:00, Africa/Monrovia |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gorllewin Affrica |
Gwlad | Liberia |
Arwynebedd | 111,369 ±1 km² |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Yn ffinio gyda | Gini, Sierra Leone, Y Traeth Ifori |
Cyfesurynnau | 6.53333°N 9.75°W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Deddfwrfa Liberia |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Liberia |
Pennaeth y wladwriaeth | George Weah |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd Liberia |
Pennaeth y Llywodraeth | George Weah |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $3,509 million, $4,001 million |
Arian | Liberian dollar |
Canran y diwaith | 4 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 4.719 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.481 |
Gwlad ar arfordir Gorllewin Affrica yw Liberia, yn swyddogol Gweriniaeth Liberia. Mae'n ffinio â Sierra Leone i'r gogledd-orllewin, Gini i'r gogledd, Arfordir Ifori i'r dwyrain, a Chefnfor yr Iwerydd i'r de a'r de-orllewin. Mae ganddi boblogaeth o tua 5.5 miliwn ac yn gorchuddio arwynebedd o 43,000 milltir sgwar (111,369 km2). Saesneg yw'r iaith swyddogol. Siaredir dros 20 o ieithoedd brodorol o fewn y wlad, gan adlewyrchu'r amrywiaeth ethnig a diwylliannol. Y brifddinas a'r ddinas fwyaf yw Monrovia.
Dechreuodd Liberia yn gynnar yn y 19g fel prosiect gan Gymdeithas Gwladychu America (ACS), a gredai y byddai pobl dduon yn cael gwell cyfleoedd a mwy o ryddid yn Affrica nag yn yr Unol Daleithiau. Rhwng 1822 a dechrau Rhyfel Cartref America ym 1861, symudodd mwy na 15,000 o Americanwyr Affricanaidd a ryddhawyd ac a aned yn rhydd, ynghyd â 3,198 o Affro-Caribïaid, i Liberia. Gan ddatblygu'n raddol hunaniaeth Amerig-Liberaidd, cariodd y gwladfawyr eu diwylliant a'u traddodiad gyda nhw tra'n gwladychu'r boblogaeth frodorol. Dan arweiniad yr Amerig-Liberiaid, datganodd Liberia annibyniaeth ar 26 Gorffennaf 1847, a chafodd ei gydnabod gan yr Unol Daleithiau tan 5 Chwefror 1862.
Liberia oedd y weriniaeth Affricanaidd gyntaf i gyhoeddi ei hannibyniaeth a hi yw gweriniaeth fodern gyntaf a hynaf Affrica. Ynghyd ag Ethiopia, roedd yn un o'r ddwy wlad yn Affrica i gadw'i sofraniaeth a'i hannibyniaeth yn ystod y "Yr Ymgiprys am Affricaa" trefedigaethol Ewropeaidd. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ochrodd Liberia gydag Unol Daleithiau yn erbyn yr Almaen Natsïaidd ac yn ei dro derbyniodd fuddsoddiad Americanaidd sylweddol i gryfhau ei seilwaith.[1] Anogodd yr Arlywydd William Tubman newidiadau economaidd a gwleidyddol a gynyddodd ffyniant a phroffil rhyngwladol y wlad; roedd Liberia'n un o sylfaenwyr Cynghrair y Cenhedloedd, y Cenhedloedd Unedig, a Sefydliad Undod Affrica.
Nid oedd y gwladfawyr Amerig-Liberaidd yn uniaethu'n dda â'r bobloedd brodorol y daethant ar eu traws. Ysbeiliwyd aneddiadau trefedigaethol gan y Kru a'r Grebo. Ffurfiodd y gwladfawyr Amerig-Liberiaid yn grwp elitaidd bach a oedd â grym gwleidyddol anghymesur, tra bod Affricanwyr brodorol wedi'u heithrio o ddinasyddiaeth genedigaeth-fraint yn eu gwlad eu hunain tan 1904.[2][3]
Yn 1980, arweiniodd tensiynau gwleidyddol oherwydd rheolaeth William R. Tolbert mewn coup milwrol, yn nodi diwedd rheolaeth Amerig-Liberia ac atafaelu pŵer arweinydd brodorol cyntaf Liberia, Samuel Doe. Llofruddiwyd Doe yn 1990 yng nghyd-destun Rhyfel Cartref Cyntaf Liberia, rhwng 1989 a 1997 ac etholwyd arweinydd y gwrthryfelwyr Charles Taylor yn arlywydd. Ym 1998, cychwynodd Ail Ryfel Cartref Liberia yn erbyn ei unbennaeth ei hun, a chafodd Taylor ei ddymchwel erbyn diwedd y rhyfel yn 2003. Arweiniodd y ddau ryfel at farwolaeth 250,000 o bobl (tua 8% o'r boblogaeth) a dadleolwyd llawer mwy, gydag economi Liberia yn crebachu 90%.[4] Arweiniodd cytundeb heddwch yn 2003 at etholiadau democrataidd yn 2005. Mae'r wlad wedi aros yn gymharol sefydlog ers hynny.