Lingua franca (hefyd sabir) oedd iaith bijin a ddefnyddid gan fasnachwyr fel cyfrwng cyfathrebu (‘iaith fasnach(u)’ fel y'i gelwir) ac a siaredid yn eang gynt ym mhorthladdoedd dwyrain Môr y Canoldir o'r 11eg i'r 19eg ganrif. Roedd yn gymysgedd gan mwyaf o Feniseg a Ligwreg Genoa ac yn eilaidd o Gatalaneg ac Ocsitaneg, yn ogystal â elfennen Ffrangeg, Groeg, Arabeg a Sbaeneg. Mae'n debyg bod yr ymadrodd Lladin hwn yn gyfieithiad llythrennol o'r Arabeg lisan al-Farang (لسان الفرنجة) ‘iaith y Ffranciaid’ oherwydd mai Phránkoi (Φρᾰ́γκοι) yn y Roeg ac ʾifranjiyy (إِفْرَنْجِي) yn yr Arabeg oedd y geiriau am ‘Ewropead y Gorllewin, gorllewinwr’.
Am ganrifoedd lawer Lladin oedd lingua franca rhwng dysgedigion yn Ewrop. Yn ddiweddarach roedd Ffrangeg yn lingua franca diplomyddiaeth a diwylliant led-led Ewrop a rhannau eraill o'r byd.
Heddiw ystyr lingua franca yw unrhyw iaith sy'n cael ei siarad rhwng rhai sy ddim yn medru ieithoedd ei gilydd. Y mwyaf poblogaidd ydy Saesneg (yn cynnwys Pisin), Ffrangeg (yn cynnwys Creol), Almaeneg, Sbaeneg, Arabeg, Hindi, Eidaleg a Swahili.
Gwrthwynebeiriau lingua franca yw tafodiaith leol, patwa.