Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 573, 557 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,104.78 ha |
Cyfesurynnau | 51.8167°N 4.35°W |
Cod SYG | W04000527 |
Cod OS | SN385155 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Samuel Kurtz (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Simon Hart (Ceidwadwr) |
Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Llan-gain[1] (hefyd: Llangain). Saif ar y ffordd B4312 rhwng Caerfyrddin a Llansteffan.
Adeiladwyd yr eglwys bresennol yn 1871 i gymeryd lle yr hen eglwys ganoloesol. Mae wedi ei chysegru i Santes Cain, un o 24 merch Brychan Brycheiniog. Mae yma safle castell canoloesol cynnar, Hengastell, ac adfail o'r 15g a elwir yn Castell Foel neu Green Castle, oedd mewn gwirionedd yn blasdy yn perthyn i'r teulu Reed.
Pan yn fachgen, arferai'r bardd Dylan Thomas ddod ar ei wyliau i blasdy Fernhill yn y plwyf; yn ddiweddarach ysgrifennodd ei gerdd adnabyddus Fernhill.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[3]