![]() | |
Math | cymuned, pentref ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 1,053 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.976°N 4.407°W ![]() |
Cod SYG | W04000066 ![]() |
Cod OS | SH384448 ![]() |
Cod post | LL54 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yng Ngwynedd, Cymru, yw Llanaelhaearn( ynganiad ). Saif ar Benrhyn Llŷn yn ardal Eifionydd.
Saif ar y briffordd A499 rhwng Caernarfon a Pwllheli, lle mae ffordd y B4417 yn fforchio o'r briffordd i gyfeiriad Nefyn. Daeth y pentref yn adnabyddus pan oedd Antur Aelhaearn yn ei anterth. Roedd hwn yn gynllun a anelai at adfywio economi'r pentref ac felly warchod ei ddiwylliant. Cynhelir eisteddfod flynyddol, yn awr yn festri Capel y Babell, sydd wedi ei addasu i fod yn ganolfan gymdeithasol. Mae nifer o enwgion yn gyn-enillwyr yma, yn cynnwys Bryn Terfel.
Mae nifer o hynafiaethau diddorol o gwmpas y pentref. Ar gopa dwyreiniol Yr Eifl uwchben y pentref mae Tre'r Ceiri, bryngaer o Oes yr Haearn a ystyrir yn un o'r bryngaerau mwyaf tarawiadol yng Nghymru. Yn Eglwys Sant Aelhaearn mae dwy garreg ac arysgrifau Lladin arnynt. Y mwyaf diddorol yw carreg sy'n dyddio o tua diwedd y 5g, gyda'r arysgrif ALIORTUS ELMETIACO(S) / HIC IACET ("Aliortus, gŵr o Elmet, sy'n gorwedd yma"). Elmet ("Elfed" mewn Cymraeg Diweddar) yw'r hen deyrnas Frythonig yn ardal Leeds heddiw, felly mae'n ymddangos fod Aliortus wedi marw ymhell o gartref. Efallai ei fod ar bererindod i Ynys Enlli. Mae'r ail garreg yn rhoi enw, Melitus, ond dim manylion pellach.