Math | cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 22,800, 23,154 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 6,211.56 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 51.68°N 4.16°W ![]() |
Cod SYG | W04000988 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Gwledig Llanelli ![]() |
AS/au Cymru | Lee Waters (Llafur) |
AS/au y DU | Nia Griffith (Llafur) |
![]() | |
Cymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llanelli Wledig. Ymestynna'r gymuned tua'r gogledd-orllewin a'r gogledd ddwyran o dref Llanelli, ac mae'n cynnwys maesdrefi Felinfoel, Dafen, Ffwrnes, Llwynhendy, Pwll, Cwmcarnhywel, Bynea a Dyffryn y Swistir, yn ogystal â phentrefi Pont-iets, Pont Henri a Pump-heol.
Mae'r gymuned yn cynnwys cronfeydd dŵr Cwm Lliedi a Lliedi Uchaf, sy'n daparu dŵr i Lanelli, a saif Canolfan Gwlyptir Genedlaethol Cymru, Penclacwydd o fewn y gymuned. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 21,043, gyda 54.45% yn medru Cymraeg.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lee Waters (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Nia Griffith (Llafur).[2]