Math | plwyf |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.897477°N 4.090183°W |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Crefydd/Enwad | Anglicaniaeth |
Esgobaeth | Esgobaeth Bangor |
Pentref bychan a phlwyf yn ardal Ardudwy, de Gwynedd, yw Llanfihangel-y-traethau ( ynganiad ) (cyfeiriad grid SH594353). Mae'r pentref ei hun yn cael ei nodi ar rai mapiau fel "Ynys" yn hytrach na Llanfihangel-y-traethau.
Saif y pentref, sy'n gymuned wasgaredig, ar ochr dwyreiniol y bryniau isel i'r gogledd o wastadedd Morfa Harlech, ar lan y Traeth Bach ac aber Afon Dwyryd, tua tair milltir a hanner i'r gogledd o Harlech. Rhed ffordd yr A496 trwy'r pentref ac mae gorsaf aros ar Reilffordd Arfordir Cymru Tŷ Gwyn (Glan-y-wern) tua chwarter milltir i ffwrdd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]
Yn yr Oesoedd Canol Diweddar roedd plwyf Llanfihangel-y-traethau yn rhan o gwmwd Ardudwy Uwch Artro ac yn cynnwys Y Lasynys, cartref Ellis Wynne, awdur Gweledigaethau'r Bardd Cwsg, yn yr 17g. Mae'n ymestyn o lan Bae Ceredigion i fyny i ragfryniau'r Rhinogau.