Math | tref sirol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cymuned Llangefni |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.256°N 4.314°W |
Cod OS | SH4675 |
Cod post | LL77 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Tref a chymuned yng nghanol Ynys Môn ydy Llangefni.[1][2] Mae wedi bod yn dref farchnad bwysig i'r ynys. Llangefni yw tref sirol Môn a lleolir pencadlys Cyngor Sir Ynys Môn yma. Mae Caerdydd 211.6 km i ffwrdd o Llangefni ac mae Llundain yn 344.7 km. O'i tharddle ger Llyn Cefni rhed Afon Cefni trwy'r dref, sy'n cymryd ei enw o'r afon. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 11.7 km i ffwrdd.
Y prif dref fasnachol ac amaethyddol yn Ynys Môn ydy Llangefni. Cafodd marchnad gyntaf y dref ei chynnal yn 1785 ac mae'n dal i gael ei chynnal bob dydd Iau a dydd Sadwrn. Ers talwm roedd Llangefni yn gartref i farchnad wartheg fwyaf yr ynys. Bellach mae yna ystâd ddiwydiannol gymharol fawr, sy'n cynnwys ffatri brosesu cyw iâr fawr, y gweithrediad diwydiannol sengl mwyaf yn y dref, yn ogystal â nifer o fusnesau bach eraill.
Yn y dref ceir Oriel Môn, gydag amgueddfa sy'n olrhain hanes yr ynys ac oriel i ddangos gwaith yr arlunydd bywyd gwyllt Charles Tunnicliffe.
Yng Nghyfrifiad 2021 roedd gan cymuned Llangefni boblogaeth o 5,499.[3] Mae 83.8% o'r boblogaeth honno'n rhugl yn y Gymraeg gyda'r canran uchaf yn yr oedran 10-14 mlwydd gyda 95.2% yn medru'r Gymraeg.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)[4] ac yn Senedd y DU gan Llinos Medi (Plaid Cymru).[5]