Math | cymuned, ward etholiadol, pentref |
---|---|
Poblogaeth | 1,229, 1,246 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,057.76 ha |
Cyfesurynnau | 53.30204°N 4.074628°W |
Cod SYG | W04000025 |
Cod OS | SH6184680351 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
Pentref a chymuned yn ne-ddwyrain Ynys Môn yw Llangoed ( ynganiad ). Mae ganddi ysgol, neuadd bentref a siop. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o gwmwd Dindaethwy, cantref Menai.
Mae Afon Lleiniog, sy'n llifo trwy'r pentref o dreflan Glanrafon i'r môr, yn llifo heibio i adfeilion Castell Aberlleiniog, castell mwnt a beili sy'n dyddio o'r 11g.
Mae'r pentref yn cynnal twrnament Rygbi 7 bob ochr bob blwyddyn. Dechreuir ei gôd post gyda LL58 8.
Ceir clystyrau cytiau hynafol gerllaw.