Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Llanharan

Llanharan
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth8,966 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhondda Cynon Taf Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.53°N 3.43°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000875 Edit this on Wikidata
Cod OSST012818 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruHuw Irranca-Davies (Llafur)
AS/au y DUChris Elmore (Llafur)
Map

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf yw Llanharan (Cyfeirnod OS: ST002831). Saif ar briffordd yr A473, rhwng Pencoed a Phontyclun. Daw'r enw o enw personol Haran, neu Aran neu efallai Aaron. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 3,421.

Gwesty'r High Corner House yn Llanharan

Yn wreiddiol roedd yn bentref amaethyddol, gyda phoblogaeth o 330 yn 1851. Dechreuodd diwydiant ddatblygu wedi i orsaf Rheilffordd De Cymru agor yno yn 1850. Agorwyd nifer o byllau glo yn y cylch, gyda phyllau Gogledd Llanharan a De Llanharan yn cyflogi 855 a 775 o weithwyr yn 1945.

Cysegrwyd yr eglwys i'r seintiau Julius ac Aaron o'r 3edd a'r 4g ac a ferthyrwyd gan y Rhufeiniaid yng Nghearleon[1]. Adeilad mwyaf nodedig y gymuned yw Llanharan House, a adeiladwyd yn niwedd yr 1740au gan Rees Powell, ac a ddatblygwyd ymhellach gan Richard Hoare Jenkins wedi iddo ef ei brynu yn 1795. Enw'r tŷ gwreiddiol ar y safle hon oedd Tŷ Mawr.[2]

Ceir pentref yn Treguier, Llydaw gyda'r un enw.

  1. 'Dictionary of the Placenames of Wales' gan Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Gwasg Gomer
  2. "Gwefan Cyngor Rhondda Cynon Taf". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-08-22. Cyrchwyd 2010-07-14.

Previous Page Next Page






Llanharan (lungsod) CEB Llanharan German Llanharan English Llanharan EU لانهاران FA Llanharan French Llanharan GA Llanharan GD Llanharan Italian Llanharan KW

Responsive image

Responsive image