Math | cymuned, pentref |
---|---|
Poblogaeth | 4,099 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.045°N 4.282°W |
Cod SYG | W04000083 |
Cod OS | SH475515 |
Cod post | LL54 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Siân Gwenllian (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Hywel Williams (Plaid Cymru) |
Pentref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Llanllyfni ( ynganiad ). Saif yn Nyffryn Nantlle ychydig i'r de o Ben-y-groes, Erbyn hyn mae Pen-y-groes a Llanllyfni bron yn cyffwrdd ei gilydd, gydag Afon Llyfni yn eu gwahanu. Hyd yn ddiweddar roedd y briffordd A487 rhwng Caernarfon a Phorthmadog yn rhedeg trwy ganol y pentref, ond yn awr mae ffordd osgoi newydd wedi lleihau'r drafnidiaeth.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[2]
Yr adeilad mwyaf diddorol yn y pentref yw Eglwys Sant Rhedyw. Dywedir i'r eglwys gyntaf ar y safle gael ei sefydlu yn y 4g. Mae traddodiad i Rhedyw (Lladin Redicus) gael ei eni yn Arfon a dod yn swyddog pwysig yn eglwys Augustodunum (Autun heddiw) yng Ngâl. Ei ŵyl Mabsant yw'r 6 Gorffennaf, pan gynheli Gŵyl Rhedyw yn Llanllyfni bob blwyddyn.