Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 517, 519 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2,988.21 ha |
Cyfesurynnau | 51.95°N 3.9°W |
Cod SYG | W04000539 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Jonathan Edwards (Annibynnol) |
Pentref bychan, cymuned a phlwyf yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llansadwrn. Fe'i lleolir yng nghefngwlad Dyffryn Tywi tua hanner ffordd rhwng Llanymddyfri i'r gogledd-ddwyrain a Llandeilo i'r de-orllewin. Yn ôl traddodiad fe'i sefydlwyd gan y sant cynnar Sadwrn (fl. tua 460).
Pedair milltir i'r gorllewin o'r pentref ceir adfeilion Abaty Talyllychau. Roedd yr uchelwr grymus Syr Rhys ap Gruffudd (c.1283-1356) yn frodor o Lansadwrn. Roedd ganddo blasdy ac ystad yn Abermarlais, o fewn y plwyf.
Cynrychiolir cymuned Llansadwrn yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Jonathan Edwards (Annibynnol).[1][2]