Cerflun y ferch fach (1899) gan William Goscombe John | |
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,335, 1,273 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 9,540.77 ha |
Cyfesurynnau | 53.176°N 3.595°W |
Cod SYG | W04000131 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Claire Hughes (Llafur) |
Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llansannan.[1][2] Fe'i lleolir yn nyffryn Afon Aled, tua naw milltir i'r gorllewin o dref Dinbych.
Mae Llansannan yn sefyll ar groesffordd bwysig i sawl ffordd ar ucheldir yr hen Ddinbych. Rhed yr A544 rhwng Abergele a Llanfair Talhaearn yn y gogledd a Bylchau a Phentrefoelas yn y de trwyddo. Mae lonydd eraill yn ei chysylltu â Gwytherin, Llanrwst a Llangernyw.
Mae'r eglwys yn gysegredig i Sant Sannan. Ceir cae yn ymyl y pentref o'r enw Tyddyn Sannan a gerllaw Pant yr Eglwys, ar bwys y cae hwnnw, ceir sylfeini adeilad a oedd efallai'n eglwys gynnar gysegredig i Sannan.
Ceir cofgolofn i bump o lenyddion o'r plwyf yng nghanol y pentref gyda cherflun wrth ei throed. Pen-y-Mwdwl yw'r enw ar y bryn ar bwys y pentref. Yn yr hen ddyddiau roedd Ffair Llansannan, a gynhelid ym mis Mai, yn adnabyddus iawn yn yr ardal.