Math | cymuned, pentrefan |
---|---|
Poblogaeth | 448, 442 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2,931.61 ha |
Cyfesurynnau | 51.9167°N 4.5333°W |
Cod SYG | W04000542 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Samuel Kurtz (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Simon Hart (Ceidwadwr) |
Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Llanwinio. Saif yng ngorllewin y sir, i'r gogledd o Sanclêr. Cysegrwyd eglwys Llawinio, yn dyddio o 1846, i Sant Gwynlo.
Heblaw pentref Llanwinio ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Cwm-bach, Cwmfelinmynach a Blaen-waun. Mae'r gymuned yn ymestyn i'r gorllewin o'r ffin â Sir Benfro. Yn ôl cyfrifiad 2001 roedd gan y gymuned boblogaeth o 432 gyda 69.52% ohonynt yn medru rhywfaint o Gymraeg.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[2]