Enghraifft o: | submarine type |
---|---|
Math | vessel, underwater vehicle |
Deunydd | brosika damonda, alloy steel |
Rhan o | water transport |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Llong (llong ryfel gan amlaf) gyda chorff llifliniog sy'n gallu ymsuddo islaw wyneb y môr ac yn gweithredu yno am gyfnodau hirfaith yw llong danfor.
Y cofnod cynharaf am long o'r fath yw'r un a adeiladwyd gan yr Iseldirwr Cornelis Drebbel (1572 - 1634) ac a ddangoswyd i'r brenin Iago I o Loegr yn aber Afon Tafwys yn 1624.
Cafwyd model mwy ymarferol gan y dyfeisydd o Americanwr David Bushnell (1742 - 1824), brodor o Connecticut, UDA. Y Turtle oedd ei henw a gwelodd gyfnod byr o wasanaeth yn y Chwyldro Americanaidd. Cafwyd sawl llong danfor arbrofol yn ystod y 19g, e.e. y Resurgam a aeth i lawr oddi ar arfordir gogledd-ddwyrain Cymru, rhwng Y Rhyl a Mostyn, yn 1879 (aeth llong danfor arall, y Thetis, i lawr yn yr un ardal yn 1939).
Defnyddid llongau tanfor gan sawl llynges yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Y math mwyaf effeithiol oedd yr Unterseeboot (U-boot) Almaenig. Roedd y rhain yn arf effeithiol iawn yn yr Ail Ryfel Byd hefyd a chollwyd cannoedd o longau iddynt, yn arbennig yn y confois a hwyliai o'r Unol Daleithiau i Brydain ac o Brydain i'r Undeb Sofietaidd. Yn y Cefnfor Tawel suddodd llongau tanfor yr Unol Daleithiau dros hanner llongau masnach Siapan a 276 o longau rhyfel.
Ers diwedd yr Ail Ryfel mae llongau tanfor wedi datblygu i raddau helaeth. Mae rhai yn cael eu gyrru gan dyrbinau stêm pŵer niwclear ac yn medru aros wedi plymio am fisoedd bwy gilydd. Yn y Rhyfel Oer datblygwyd llongau tanfor niwclear i gario taflegrau niwclear, e.e. y taflegryn Trident a ddefnyddir gan Brydain ac UDA.