Llygoden ffyrnig Rattus norvegicus | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Rodentia |
Teulu: | Muridae |
Is-deulu: | Murinae |
Genws: | Rattus Fischer de Waldheim, 1803 |
Rhywogaeth: | 64 rhywogaeth |
Enw deuenwol | |
Rattus norvegicus (Berkenhout, 1769) | |
Dosbarthiad |
Llygoden fawr lwydfrown hollysol ddinistriol iawn o isdeulu'r Murinae yw'r llygoden ffyrnig (Rattus norvegicus). Mae ganddi gorff braidd yn fawr a chynffon hir gennog, ac mae hi fel arfer yn byw mewn tyllau tanddaearol. Adnabyddir hi hefyd fel llygoden Ffrengig, llygoden fawr, llygoden Norwy, llygoden llwyd a llygoden winau. Mae'n un o'r llygod mawr mwyaf cyffredin heddiw ac yn un o'r mwyaf enwog yn y genws Rattus.
Y llygoden ffyrnig yw un o'r mwyaf yn yr is-deulu, o ran ei maint, gyda hyd corff a phen o 28 cm (11 modfedd), a chynffon fymryn yn llai; mae'n frown neu lwydaidd ei lliw. Mae'n pwyso rhwng 140 a 500 g (5 a 18 owns). Credir iddi darddu'n wreiddiol o ogledd Tseina, ond mae'r cnofil hwn wedi ymledu i bob cyfandir ag eithrio'r Antarctig, a hon yw'r prif lygoden fawr o ran niferoedd yn Ewrop a llawer o Ogledd America. Mae lle i ddadlau mai hon, ar y sail yma o leiaf, yw mamal mwyaf llwyddiannus yn y byd yn gyfochrog â'r hil ddynol.[1]
Ar wahan i eithriadau prin, mae'r llygoden ffyrnig yn byw'n agos at bobl, yn enwedig mewn ardaloedd trefol.