Tafodiaith Ffranconaidd Moselle yw Lwcsembwrgeg (Lëtzebuergesch) sy'n cael ei siarad yn bennaf yn Lwcsembwrg lle y mae'n iaith swyddogol yn ogystal â Ffrangeg ac Almaeneg. Tua 400,000 o bobl ar draws y byd sy'n siarad yr iaith.