Math | lleoliad chwaraeon |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1873 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Brynmill |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6125°N 3.9656°W |
Perchnogaeth | Cyngor Dinas a Sir Abertawe |
Mae Maes Rygbi a Chriced St Helen yn lleoliad chwaraeon yn Abertawe, sy'n eiddo i Gyngor Dinas a Sir Abertawe. Fe'i defnyddir yn bennaf ar gyfer chware rygbi'r undeb a chriced, mae wedi bod yn gartref i Glwb Rygbi Abertawe a Chlwb Criced Abertawe ers iddo agor ym 1873.[1] Enwyd y maes ar ôl cwfaint St Helen oedd yn arfer sefyll gerllaw y maes.[2]
Yn rygbi'r undeb, St Helen oedd lleoliad y gêm gartref gyntaf erioed i dîm cenedlaethol Cymru ym 1882. Parhaodd i gael ei ddefnyddio'n rheolaidd gan Gymru, yn aml ar gyfer Pencampwriaeth y Pum Gwlad, tan 1954, ond dim ond un gêm ryngwladol llawn y mae wedi'i lwyfannu ers hynny, ym 1997. Yn fwy diweddar, mae'r maes wedi cael ei ddefnyddio gan dîm menywod Cymru.
Mae Clwb Criced Morgannwg wedi defnyddio St Helen yn rheolaidd fel maes atodol er 1921. Mae'r maes wedi llwyfannu dau Gêm Ryngwladol Undydd: Lloegr yn erbyn Seland Newydd ym 1973, a gêm yng Nghwpan y Byd 1983 rhwng Pacistan a Sri Lanka. St. Helen's oedd lleoliad chwech chwechawd Syr Garfield Sobers mewn gêm unigol o griced dosbarth cyntaf, y rhediad mwyaf posibl mewn pelawd unigol, a'r tro cyntaf iddo gael ei wneud.
Mae St Helen hefyd wedi llwyfannu gemau rhyngwladol mewn dwy gamp arall. Yn y rygbi'r gynghrair, chwaraeodd Cymru dair gêm ar ddeg yn y maes rhwng 1945 a 1978, dwy ohonynt yn rhan o dwrnamaint Cwpan y Byd 1975. Cynhaliwyd gêm bêl-droed ryngwladol rhwng Cymru a'r Iwerddon yn St Helen ym 1894.[3]