![]() | |
Math | safle archaeolegol, caer lefal ![]() |
---|---|
Sefydlwyd |
|
Daearyddiaeth | |
Sir | Winterborne St Martin, Dorset ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 19 ±1 ha ![]() |
Uwch y môr | 132 ±1 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 50.695°N 2.47°W ![]() |
Cod OS | SY66938848 ![]() |
Rheolir gan | English Heritage ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | English Heritage ![]() |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig ![]() |
Manylion | |
Bryngaer yn Dorset, De-orllewin Lloegr, yw Maiden Castle. Mae'n safle 44 erw (18 ha)[1] ar gopa Bryn Fordington, ger Dorchester. Credir y gallai'r amddiffynfeydd cyntaf ddyddio o tua 2,000 CC. Cloddiwyd y safle gan yr archaeolegydd enwog Syr Mortimer Wheeler a chafwyd hyd i dystiolaeth fod pentref o gyfnod Oes yr Haearn ar y safle tua 400 CC. Cafodd ei chipio gan y Rhufeiniaid yn OC 43 a'i gadael yn anghyfanedd ar ôl tua 70.
Cymharwyd maint a chryfder y fryngaer gydag un arall: Dinorben ger Abergele. Disgrifiwyd Dinorben (cyn iddi gael ei chwalu gan gloddio chwarelyddol yn yr 20g) gan yr archaeolegydd Gardner fel hyn: "Cododd y clawdd mewnol enfawr, a oedd eisioes wedi'i herydu, 7 metr llawn uwchben wyneb y tir, a bron i 12m uwchben gwaelod y ffos allanol... Mae hyn yn ei osod yn gyfartal â Maiden Castle yn Dorset, gwersyll aruthrol o fawr."[2]