Yn hanesyddol, milwyr ar gefn ceffylau yw marchfilwyr, gwŷr meirch neu'r cafalri.[1] Heddiw mae gan y term ystyr ehangach sy'n crybwyll tanciau a lluoedd rhagchwilio arfogedig.[2]
Rhennir marchfilwyr yn farchogluoedd a sgwadronau. Ymhlith y mathau o farchfilwyr hanesyddol mae hwsariaid, dragwniaid a gwaywyr.