Marchrawn Amrediad amseryddol: Jwrasig Canol – Holosen, | |
---|---|
![]() | |
Marchrawnen fawr (Equisetum telmateia) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Pteridophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Equisetales |
Teulu: | Equisetaceae |
Genws: | Equisetum L. |
Rhywogaethau | |
Tua 15, gweler y rhestr[1] |
Grŵp o blanhigion fasgwlar o'r genws Equisetum yw marchrawn, yr unig aelodau o'r dosbarth Equisetopsida sy'n goroesi heddiw. Mae marchrawn yn tyfu mewn cynefinoedd llaith ledled y byd.[2] Mae ganddynt goesynnau a rhisomau cymalog ac mae gan rai rhywogaethau gylchoedd o ganghennau.[1] Maent yn cynhyrchu "conau" (strobili) sy'n cynnwys y sborau.[2]