Mari, brenhines yr Alban | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 8 Rhagfyr 1542 ![]() Palas Linlithgow ![]() |
Bu farw | 8 Chwefror 1587 ![]() Castell Fotheringhay, Swydd Northampton ![]() |
Man preswyl | Yr Alban, Castell Fotheringhay, Castell Chartley, Paris ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas yr Alban ![]() |
Galwedigaeth | gwleidydd, brenin neu frenhines, pendefig, brenhines cyflawn, brenhines gydweddog ![]() |
Swydd | teyrn yr Alban, Consort of France ![]() |
Adnabyddus am | Oxburgh Hangings ![]() |
Tad | Iago V, brenin yr Alban ![]() |
Mam | Mary o Lorraine ![]() |
Priod | Ffransis II, brenin Ffrainc, Henry Stuart, James Hepburn ![]() |
Plant | Iago VI yr Alban a I Lloegr, marwanedig Hepburn (efaill 1), marwanedig Hepburn (efaill 2) ![]() |
Perthnasau | Harri VIII, Rupert, tywysog y Rhein, Marged Tudur ![]() |
Llinach | y Stiwartiaid ![]() |
Gwobr/au | Rhosyn Aur ![]() |
llofnod | |
![]() |
Brenhines yr Alban rhwng 14 Rhagfyr 1542 a 24 Gorffennaf 1567 oedd Mari I (hefyd Mari Stewart neu, yn Saesneg, Mary Queen of Scots) (8 Rhagfyr 1542 – 8 Chwefror 1587).[1]
Mari oedd unig etifedd cyfreithlon byw y Brenin Iago V o’r Alban. Dim ond chwe diwrnod oed oedd hi pan fu farw ei thad, ac olynwyd ef gan Mari'r baban. Treuliodd llawer o’i phlentyndod yn Ffrainc tra'r oedd yr Alban yn cael ei rheoli gan raglywiaeth, ac yn 1558 priododd etifedd coron Ffrainc, Francis.[2][3] Mari oedd Brenhines Gydweddog Ffrainc pan ddaeth Francis i’r orsedd yn 1559 tan ei farwolaeth yn Rhagfyr 1560. A hithau bellach yn weddw ifanc, dychwelodd Mari i’r Alban, gan gyrraedd Leith ar 19 Awst 1561.[4] Bedair blynedd yn ddiweddarach, priododd ei hanner cefnder, Henry Stuart, Arglwydd Darnley, ac ym Mehefin 1566 ganwyd mab iddynt o'r enw Iago.[5]
Yn Chwefror 1567, dinistriwyd tŷ Darnley gan ffrwydrad a darganfuwyd Darnley wedi ei lofruddio yn yr ardd. Y gred gyffredinol oedd mai James Hepburn, 4ydd Iarll Bothwell, oedd wedi trefnu marwolaeth Darnley, a chafwyd ef yn euog o’r cyhuddiadau yn Ebrill 1567. Fis yn ddiweddarach priododd ef a Mari. Denodd y briodas lawer o feirniadaeth a arweiniodd at wrthryfel yn erbyn y ddau, gyda Mari yn cael ei charcharu yng Nghastell Loch Leven.[6] Ar 24 Gorffennaf 1567 gorfodwyd hi i ymwrthod â’r goron er mwyn paratoi’r ffordd ar gyfer esgyniad ei mab i orsedd yr Alban. Wedi ymdrech aflwyddiannus i ail-gipio’r goron, gorfodwyd hi i ffoi i gyfeiriad y de, gan ofyn am loches gan ei chyfnither gyntaf, y Frenhines Elisabeth I, yn Lloegr.
Roedd Mari a’i chefnogwyr wedi honni ar un adeg mai ganddi hi oedd yr hawl i etifeddu gorsedd Elisabeth, ac ystyriwyd hi gan lawer o Gatholigion yn Lloegr fel etifedd cyfreithlon Lloegr. Hynny oedd y rheswm dros Wrthryfel y Gogledd yn 1569. Ystyriwyd Mari gan Elisabeth fel bygythiad i’w sefydlogrwydd ar orsedd Lloegr, ac oherwydd hynny, symudwyd Mari yn rheolaidd rhwng gwahanol gestyll a phlastai yn Lloegr er mwyn sicrhau nad oedd yn dod yn ganolbwynt neu’n ffocws cynllwyn neu wrthryfel yn erbyn Elisabeth.[7] Wedi treulio deunaw mlynedd wedi ei charcharu, cafwyd Mari yn euog o gynllwyn i lofruddio Elisabeth yn 1586, a dienyddiwyd hi yng Nghastell Fotheringay ym mis Chwefror 1587.[8]