Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Menai

Menai
Mathcwmwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolRhosyr Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.16196°N 4.36555°W Edit this on Wikidata
Map
Mae hon yn erthygl am gwmwd Menai. Gweler hefyd Afon Menai.

Cwmwd Menai oedd un o ddau gwmwd cantref Rhosyr, Môn, yn yr Oesoedd Canol. Fel gweddill yr ynys, roedd yn rhan o deyrnas Gwynedd.

Ynys Llanddwyn, ym mhen gorllewinol cwmwd Menai

Gorweddai cwmwd Menai yng nghongl dde-orllewinol Ynys Môn gydag arfordir ar Afon Menai i'r de-ddwyrain a Bae Caernarfon i'r gorllewin. Ffiniai â chymydau Malltraeth a Llifon yng nghantref Aberffraw i'r gogledd-orllewin, Twrcelyn i'r gogledd, a Dindaethwy, ail gwmwd cantref Rhosyr, i'r dwyrain. Roedd o siâp anwastad gyda llain o dir yn ymestyn i'r gogledd-orllewin rhwng cantref Aberffraw a chwmwd Dindaethwy.

Canolfan gweinyddol y cwmwd, a chantref Rhosyr ei hun, oedd tref Rhosyr (Rhosfair : Niwbwrch heddiw), safle Llys Rhosyr. Sefydlwyd bwrdeistref newydd yno ar ddechrau'r 14g pan orfodwyd trigolion Llan-faes i symud yno gan y Saeson.

Rhoddwyd llawer o dir a threfi yn y cwmwd i Abaty Aberconwy ac eglwys Clynnog Fawr gan dywysogion Gwynedd, er enghraifft gan Llywelyn Fawr yn ei siartr i Abaty Aberconwy ar ddiwedd y 12g. Roedd eglwys Llangeinwen, ger Rhosyr, yn perthyn i Glynnog ac yn cael ei galw'n Glynnog Fechan.

Yn yr Oesoedd Canol roedd nifer o bererinion o bob cwr o Gymru yn tyrru i gwmwd Menai i ymweld ag eglwys Dwynwen ar Ynys Llanddwyn.

Mae geirdarddiad yr enw Menai yn deillio o'r un gair a Mynwy ac yn golygu darn o ddŵr cyflym.


Previous Page Next Page








Responsive image

Responsive image