Merfyn ap Rhodri | |
---|---|
Ganwyd | 9 g ![]() |
Bu farw | 903 ![]() |
Galwedigaeth | teyrn ![]() |
Swydd | Teyrnas Powys ![]() |
Tad | Rhodri Mawr ![]() |
Mam | Angharad ferch Meurig ![]() |
Plant | Llywelyn ap Merfyn ![]() |
Brenin Powys, yn ôl pob tebyg, yn ystod rhan olaf y 9g oedd Merfyn ap Rhodri (bu farw 904).
Roedd Merfyn yn un o feibion Rhodri Mawr, oedd yn frenin rhan helaeth o Gymru. Ar farwolaeth Rhodri yn 878, rhannwyd ei deyrnas rhwng tri o'i feibion. Cafodd Anarawd ap Rhodri, yr hynaf o'r brodyr yn ôl pob tebyg, Wynedd a daeth Cadell ap Rhodri yn rheolwr Seisyllwg. Nid oes cofnod pa ran a gafodd Merfyn, ond credir mai Powys ydoedd.