Math | gwlad ar un adeg, gwladwriaeth ddibynnol |
---|---|
Prifddinas | Tamworth |
Sefydlwyd | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Hen Saesneg, Lladin |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Saith Deyrnas |
Cyfesurynnau | 52.6°N 1.6°W |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | brenin Mersia |
Crefydd/Enwad | paganiaeth Eingl-Sacsonaidd, Christianity in Anglo-Saxon England |
Arian | punt yr Anglo-Sacson |
Roedd Mersia[1] (neu Mercia; Eingl-Sacsoneg: Mierce, "pobl y gororau"), yn un o deyrnasoedd yr Eingl-Sacsoniaid, gyda'i chalon o gwmpas dyffryn Afon Trannon.
Roedd Mersia'n ffinio â nifer o deyrnasoedd Cymru, yn enwedig Powys, a bu llawer o ymladd rhyngddynt, ond hefyd ambell dro gynghrair. Y brenin cyntaf y gwyddir amdano oedd Creoda, a ddaeth i rym tua 585. Dilynwyd ef gan ei fab, Pybba, yn 593. Dilynwyd ef gan Cearl yn 606, yna daeth Penda yn frenin. Gwnaeth Penda gynghrair gyda nifer o'r brenhinoedd Cymreig i ymgyrchu yn erbyn Northumbria, yn enwedig Cadwallon ap Cadfan, brenin Gwynedd.
Lladdwyd Penda gan y Northunbriaid ym Mrwydr Winwaed yn 655, ac am gyfnod gwanychwyd Mersia yn fawr. Yn ddiweddarach, tua dechrau'r 8g, cryfhaodd y deyrnas eto, a chipiwyd darn sylweddol o ddwyrain Powys, yn cynnwys y brifddinas, Pengwern. Daeth Æthelbald yn frenin yn 716, ac wedi iddo ef farw bu rhyfel am yr orsedd a enillwyd gan Offa. Yn ddiweddarach edwinodd grym Mersia, cipiwyd rhan ddwyreiniol y deyrnas gan y Daniaid a thyfodd Wessex i fod y mwyaf grymus o deyrnasoedd Lloegr.