Y Gwir Anrhydeddus Michael Howard | |
| |
Cyfnod yn y swydd 27 Mai, 1993 – 2 Mai 1997 | |
Rhagflaenydd | Kenneth Clarke |
---|---|
Olynydd | Jack Straw |
Geni | 7 Gorffennaf 1941 Gorseinon, Abertawe |
Etholaeth | Folkestone a Hythe |
Plaid wleidyddol | Ceidwadol |
Priod | Sandra Howard |
Crefydd | Iddewiaeth |
Mae Michael Howard (ganwyd 7 Gorffennaf 1941), yn gyn-aelod seneddol ac yn gyn-arweinydd Y Blaid Geidwadol. Cafodd ei eni yng Ngorseinon, fel Michael Hecht, yn fab i Bernat Hecht a'i wraug Hilda.[1] Roedd ei ddau riant yn fewnfudwyr Iddewig.[2]
Ef oedd yn gyfrifol am gyflwyno Treth y Pen (Poll Tax) yn Llywodraeth Margaret Thatcher.
Ymddeolodd Howard o wleidyddiaeth yn 2006 a chafodd ei wneud yn arglwydd am oes yn 2010, fel Baron Howard of Lympne.[3]