Prosesydd cyfrifiadur yw microbrosesydd sy'n cynnwys swyddogaethau uned brosesu canolog ar un cylched gyfannol (IC),[1] neu ar y mwyaf ychydig o gylchedau gyfannol.[2] Mae'r microbrosesydd yn gylched cyfannol ddigidol amlbwrpas, a yrrir gan gloc, yn defnyddio cofrestr, sy'n derbyn data deuol fel mewnbwn, yn prosesu hynny yn ôl y cyfarwyddiadau wedi'u gadw yn ei gof, ac yn darparu canlyniadau fel allbwn. Mae microbrosesyddion yn cynnwys rhesymeg cyfuniadol a rhesymeg dilyniannol digidol. Mae microbrosesyddion yn gweithredu ar rifau a symbolau a gynrychiolir yn y system rhifo deuaidd.
Gwnaed gwahaniaeth sylweddol i bŵer prosesu drwy osod CPU cyfan ar un sglodyn (neu nifer fach o sglodion), gan gynyddu effeithlonrwydd. Mae proseswyr cylched gyfannol yn cael eu cynhyrchu mewn niferoedd mawr iawn drwy brosesau awtomatig, gan arwain at gost isel fesul-uned. Mae proseswyr sglodyn-sengl yn cynyddu dibynadwyedd am fod llawer llai o gysylltiadau trydanol a allai fethu. Yn gyffredinol, wrth i gynlluniau microbrosesydd wella, mae'r gost o gynhyrchu sglodion (gyda cydrannau llai o faint a adeiladwyd ar sglodion lled-ddargludyddol yr un maint) yn aros yr un fath.
Cyn bodolaeth microbrosesyddion, adeiladwyd cyfrifiaduron bach drwy ddefnyddio raciau o gylchedau bwrdd gyda llawer iawn o gylchedau cyfannol graddfa canolig a bach. Roedd microbrosesyddion yn cyfuno hyn i mewn i un neu fwy o ICau graddfa-fawr. Mae'r cynnydd parhaus mewn cymwysterau microbrosesyddion wedi disodli mathau eraill o gyfrifiaduron bron yn gyfan gwbl, gydag un neu fwy o microbrosesyddion yn cael eu defnyddio mewn popeth o'r systemau mewnblanedig lleiaf a dyfeisiau llaw i'r cyfrifiaduron prif ffrâm a'r uwchgyfrifiaduron mwyaf.