Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Mochnant Is Rhaeadr

Cwmwd canoloesol yng nghantref Mochnant, Teyrnas Powys, oedd Mochnant Is Rhaeadr. Gyda Mochnant Uwch Rhaeadr, roedd yn un o ddau gwmwd y cantref hwnnw. Gorwedd yn ardal Maldwyn, yn sir Powys, heddiw.

Dynodai Afon Rhaeadr, un o ledneintiau Afon Tanad (neu 'Tanat'), y ffin rhwng y ddau gwmwd. Gorweddai Is Rhaeadr rhwng Uwch Rhaeadr i'r de, rhan o Edeirnion i'r gorllewin, Cynllaith i'r gogledd, a darn bychan o gantref Mechain i'r dwyrain.

Pan ymranodd hen deyrnas Powys yn 1166 yn Bowys Fadog a Powys Wenwynwyn, rhanwyd cantref Mochnant rhwng y ddwy dywysogaeth newydd. Aeth Mochnant Is Rhaeadr yn rhan o Bowys Fadog (ym meddiant Owain ap Madog i ddechrau) ac aeth Uwch Rhaeadr yn rhan o Bowys Wenwynwyn (ym meddiant Owain Cyfeiliog i ddechrau). Rhwng 1282 a'r 1540au bu'n rhan o Swydd y Waun, gyda Cynllaith a Nanheudwy. Parhaodd afon Rhaeadr fel ffin rhwng yr hen Sir Ddinbych a Sir Drefaldwyn pan grëwyd y siroedd newydd yn 1536.

Roedd y cwmwd yn fynyddig, gyda llethrau'r Berwyn yn y gorllewin a'r gogledd, ac yn cynnwys Pistyll Rhaeadr, un o Saith Rhyfeddod Cymru. Y ganolfan bwysicaf oedd Llanrhaeadr-ym-Mochnant.


Previous Page Next Page








Responsive image

Responsive image