![]() | |
Math | mynydd, copa ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 770 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 52.9837°N 4.0004°W ![]() |
Cod OS | SH6582544864 ![]() |
Manylion | |
Amlygrwydd | 385 metr ![]() |
Rhiant gopa | Moel Siabod ![]() |
Cadwyn fynydd | Eryri ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
Manylion | |
Mynydd yn Eryri yw'r Moelwyn Mawr. Saif Croesor i'r gorllewin iddo a Thanygrisiau i'r dwyrain. Mae'r Moelwyn Bach gerllaw iddo, fymryn i'r de, a chefnen Craigysgafn yn eu gwahanu. Rhwng y ddau Foelwyn mae Llyn Stwlan. I'r gogledd-orllewin, yr ochr arall i Gwm Croesor, mae Cnicht.
Gellir ei ddringo o Groesor, gan anelu am Bont Maesgwm ac yna am gefnen Braich y Parc. Wedi cyrraedd y copa mae'n fater gweddol hawdd mynd ymlaen dros Graigysgafn i gopa'r Moelwyn Bach hefyd.