Monocotyledonau | |
---|---|
Lili fartagon (Lilium martagon) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Monocotau |
Urddau | |
Gweler y rhestr |
Grŵp mawr o blanhigion blodeuol llysieuol gydag un had-ddeilen yn y hedyn yw'r monocotyledonau (hefyd unhad-ddail neu unhadgibogion). Mae tua 60,000 o rywogaethau ledled y byd,[1] gan gynnwys lilïau, tegeirianau, palmwydd a glaswellt. Fel arfer, mae gan y monocotyledonau ddail di-goes hirgul gyda gwythiennau cyfochrog ac organau blodeuol wedi'u trefnu mewn lluosrifau o dri.[2] Mae'r grŵp yn cynnwys llawer o gnydau pwysig a phlanhigion yr ardd.