Math | mynydd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Tadeusz Kościuszko |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Kosciuszko National Park |
Rhan o'r canlynol | Y Saith Pegwn |
Gwlad | Awstralia |
Uwch y môr | 2,228 metr |
Cyfesurynnau | 36.4558°S 148.2635°E |
Amlygrwydd | 2,228 metr |
Cyfnod daearegol | Silwraidd |
Cadwyn fynydd | Snowy Mountains |
Deunydd | craig fetamorffig |
Mynydd uchaf Awstralia yw Mynydd Kosciuszko (Saesneg: Mount Kosciuszko). Saif y mynydd, sy'n 2,228 medr o uchder, yn y Snowy Mountains yn New South Wales.
Dringwyd y mynydd yn 1840 gan y fforiwr a dringwr Pwylaidd Paweł Edmund Strzelecki, a enwodd y mynydd ar ôl Tadeusz Kościuszko, arwr cenedlaethol Gwlad Pwyl. Mae'r ardal o amgylch y mynydd yn ffurfio Parc Cenedlaethol Kosciuszko, sydd ag arwynebedd o 6,900 km².