![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.0263°N 4.2798°W ![]() |
Cod OS | SH472501 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
![]() | |
Pentref yn Arfon, Gwynedd, yw Nasareth ( ynganiad ) . Fe'i lleolir ychydig i'r dwyrain o briffordd yr A487 rhwng Caernarfon a Chricieth, tua dwy filltir a hanner i'r de o Ben-y-groes. Y pentref agosaf yw Nebo, hanner milltir i'r gogledd-ddwyrain. Mae'r hen lôn o Lanllyfni yn rhedeg trwy Nasareth ar ei ffordd i Garn Dolbenmaen. Mae'r pentref yn gorwedd ar lethrau isaf Mynydd Craig-goch.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[2]